Anerchiadau gan Artistiaid Preswyl -
David Cushway a Sai Huan Kuan
Yn y sinema.
Ar hyn o bryd mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnal Rhaglen Artistiaid Preswyl. Bydd dau artist yn gweithio yn y stiwdios newydd, a ddylunwyd gan gwmni adnabyddus Thomas Heatherwick, am gyfnod o dri mis gydol y flwyddyn. Fel rhan o'r cyfnod preswyl bydd pob artist yn rhoi anerchiad anffurfiol am ei waith.
David Cushway: "Ers dros bum mlynedd ar hugain, ‘rwyf wedi ymddiddori mewn clai fel deunydd, a sut mae'n gysylltiedig â phob agwedd o'n bywydau. O ddydd ein geni, yn byw o ddydd i ddydd, ac hyd at farwolaeth, mae clai a'r proses serameg wedi bod yn sylfaenol i'n bodolaeth ddiwylliannol ers i'r dynion cyntaf oll dysgu'r sgiliau sut i'w ddefnyddio. Hanes serameg yw hanes dynoliaeth. Mae'n diffinio uchelgais a datblygiad diwylliannol dynolryw; clai yw'r deunydd sy'n rhwymo ni i'r byd yr ydym yn byw ynddo. ‘Rydym yn deillio o hwn, ac yn dychwelyd ato yn y pendraw."
Sai Huan Kuan: "Mae fy ngwaith yn aml yn archwilio'r gwagle deinamig rhwng gofod ac amser. Y prosesau pwysig i mi wrth greu celf yw i dorri i lawr a thrawsffurfio gofod, ac i dorri i lawr ac ailadeiladu deunyddiau a gwrthrychau. Mae'r proses creu hwn, sy'n chwareus ac eto'n fentrus, yn rhoi'r cyfle i mi i ail-ymweld â'm cof a phrofiadau cymdeithasol a diwylliannol."
Am mwy o wybodaeth cysylltwch â Cath Sherrell 01970 622 888 cxs@aber.ac.uk.