ANERCHIADAU GAN ARTISTIAID PRESWYL - Canolfan y Celfyddydau
Nos Iau 4ydd Hydref: Jennifer Price, Brazier & Free ac Elise Simard
6pm, y Sinema, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar hyn o bryd yn cynnal Rhaglen Artistiaid Preswyl . Fel rhan o'r cyfnod preswyl mae pob artist yn cyflwyno sgwrs anffurfiol am ei waith.
Mae
ffilmiau Elise Simard yn aml yn tarddu o un frawddeg a delwedd. Gan gymysgu technegau animeiddio arbrofol a thraddodiadol, mae'n anelu at greu llwybrau cyfriniol i helpu
ei chymeriadau i bontio'r cyffredin a'r aruchel. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda golau, ffiltrau ffotograffig a lensys ystumiad, ac yn arbrofi gyda phrosesau ail-gynhyrchu a recordio.
Mae Jennifer Price yn harneisio dulliau print sylfaenol a thraddodiadol, ac yn eu troi wyneb i waered, fel bod
y canlyniadau yn croesi ffiniau printio, arlunio, cerflunwaith, gosodweithiau ac ymyriad y cyhoedd. Mae'r gwaith yn cyfeirio at haenau cymhleth o ddiwylliant materol a rôl yr artist gweledol mewn oes gymhleth y cyfryngau.
Mae David Brazier & Kelda Free yn creu gweithiau sy'n ymateb i safle trwy ddefnyddio dulliau aml-ddisgyblaethol
sy'n cynnwys fideo, ffotograffiaeth, gosodwaith a sefyllfaoedd a adeiledir. Maent yn aml yn cydweithio gyda chyfranogwyr y tu allan i'r celfyddydau, gan ganiatau i ganlyniadau annisgwyl ddatblygu cynnwys y gwaith a chreu mannau cychwyn ar gyfer prosiectau
artistig newydd.